Y mae Triathlon Cymru yn falch I cyhoeddi Cyfres Tristars am 2019, un ar ddeg digwyddiad ar draws Cymru sydd, eleni, yn cynnwys tri triathlon dwr-agored a hefyd nifer o digwyddiadau aml-gamp mwya’ poblogaidd Cymru.
Fe fydd cyfres 2019 yn dechrau ag gorffen yn Ganolbarth Cymru, efo’r Aquathlon Cerist ym Machynlleth ar 29ain o Ebrill yn dechrau’r gyfres, cyn gorffen yn ganolfan hamdden Plascrug ar 31af o Awst drwy Triathlon Plant Aberystwyth
Rhwng y ddau ddigwyddiad yma, fydd y gyfres yn teithio ar draws Cymru, efo digwyddiadau yn cymryd lle ar draws Llanelli, Ruthun, Y Bala, Caerdydd, yr Wyddgrug, Ystradgynlais a Tredegar
Dyma’r gyfres gyfan isod:
Event | Date | Region | Location |
---|---|---|---|
Cerist Aquathlon | Sunday 28th April | Mid | Machynlleth Leisure Centre |
Ruthin Junior Traithlon | Sunday 5th May | North | Ruthin Leisure Centre |
Llanelli Open Water Triathlon* | Sunday 12th May | South | North Dock, Llanelli |
Stephen Lewis Aquathlon | Sunday 26th May | South | Ystradgynlais Leisure Centre |
Cardiff Junior Triathlon | Saturday 8th June | South | Maindy Leisure centre, Cardiff |
Denbigh Junior Triathlon | Sunday 23rd June | North | Denbigh Lesiure Centre |
Bala Junior Triathlon | Saturday 29th June | North | Penllyn Lesiure Centre, Bala |
Conwy Tristars @ Mold | Sunday 14th July | North | Mold Leisure Centre |
Park Bryn Bach Junior Triathlon | Sunday 4th August | South | Park Bryn bach, Tredegar |
Aberystwyth Junior Triathlon | Saturday 31st August | Mid | Plascrug Leisure Centre, Aberystwyth |
Pembrokeshire Junior Triathlon | TBC | West | Pembroke Leisure Centre |
I gymryd rhan yn yr digwyddiadau unigol, fydd angen i gystadleuwyr cofrestru efo’r trefnwyr yn uniongyrchol. Gallwch ymweld ar y gwefannau unigol, neu bydd yr holl gyfres ar gael drwy wefan digwyddiadau Triathlon Cymru.
I gwblhau’r gyfres, fydd y pedwar sgôr uchaf o’r holl ddigwyddiadau drwy gydol y gyfres yn cael i atodi. Fydd yna fedalau aur, arian ac efydd ar gael i fechgyn a marched yn yr oedrannau canlynol:
Tristar 1 (9-10yrs), Tristar 2 (11-12yrs) a Tristar 3 (13-14yrs).
Efo’r pedwar sgôr uchaf yn creu’r cyfanswm i bob cystadleuwyr, mae’r nifer o ddigwyddiadau tu fewn i’r gyfres hefyd yn rhoi cyfleoedd i unigolion ymarfer tu fewn amodau cystadleuol, heb gael y pwysau fod pob sgôr yn cyfrif.
Cofrestru
I gymryd rhan yn y gyfres gyfan, fydd angen i gystadleuwyr cofrestru efo Triathlon Cymru cyn y digwyddiad cyntaf. Mae’r mesur yma yn lle eleni i helpu’r trefnwyr casglu’r canlyniadau wedi’r digwyddiad.
Rydym yn pwysleisio’r rhieni neu’r clybiau i gofrestru’r plant, gan e-bostio Triathlon Cymru efo copi o’i cherdyn aelodaeth a hefyd manylion y clwb. Anfonwch y wybodaeth yma i WT-Events@WelshTriathlon.org
Gallwch wneud hyn ar unrhyw adeg o’r tymor, ond dim o’n y digwyddiadau ar ôl gael y wybodaeth yma fydd yn cyfrif. (Os rydych yn anfon y manylion ym Mhis Gorffennaf, ni fydd canlyniadau mis Mai a Mehefin yn cael i gynnwys).
Sgorio am 2019
Y mae yna system sgorio newydd yn lle y tymor yma. Fydd enillwyr y digwyddiadau dwr-agored gallu ennill 1200 o bwyntiau, ac enillwyr y digwyddiadau eraill 1000 o bwyntiau. Fydd canlyniadau pawb yn cael i gyfrif yn erbyn amser yr enillydd. Er enghraifft, mae’r enillydd yn gorffen mewn 18munud ac yn ennill 1000 o bwyntiau, fydd y cystadleuydd a orffennodd yn ail mewn amser o 18mun 36 eiliad yn cael 968 o bwyntiau (18 / 18.36 X 1000 = 968). Mae hyn yn gwobrwyo pob cystadleuydd am ei hymdrech gyfan ac nid y safle maent yn gorffen.
Tîm Cymru am Bencampwriaeth Prydain
Fydd manylion am y broses yma yn cael i hysbysu yn y flwyddyn newydd.