Find an Event

Inspired to #TriLikeMe?

Search over 1000 permitted events to find your next challenge!

Thoughts on Triathlon in 2013 and 2021 | Triathlon i mi yn 2013 a 2021

Published:

I'm now a retired 62 year old, where my introduction to triathlon took
several years, from that of spectator to participant. Apart from the health and fitness one has early on in life I'm stronger and fitter than I can remember. I have always lived a healthy life, food and outdoor wise. I’ve never smoked, drink modestly and started family life in my mid 30's. My engineering job was fairly sedentary, involved sitting (PC work) and travelling a lot such that by my late 40's I started to get problems with my shoulders and back, sleeping was uncomfortable, a new bed I thought, picking a pencil off the floor required negotiating a route bending over to pick it up. A walk up a hill involved ‘many stops’ to ‘admire the view’, this never used to happen. It culminated in both shoulders being frozen and therapy of one sort or another did nothing to improve it. Also I’ve been a blood donor since my early twenties and this particular year I was turned away because of low blood iron and advised to see a doctor. Clearly lifestyle wise something needed to change so I decided to try and get fit and started jogging from home, up a hill, so walking the first bit. It was odd having to stop for a breather as I ran ‘down’ the hill! Clearly not good but I kept it up, just a mile or so. 

2 weeks later my shoulders were on the mend, such that I wonder if they'd got used to doing almost nothing so they froze up. Anyway following a swim with the kids at the local pool I was pleased I could still swim 10 lengths. A passing comment to one of the triathlon coaches a little later encouraged me to start swimming with them and when there, others encouraged me to start running and cycling etc. 13 years later, though I’m not too interested in it, I've yet to reach my peak! My main interest is health of the nation, getting people out and about doing aerobic exercise of almost any sort. The concept of “use it or lose it” comes to mind. 

Since 2003 I’d had a go at a few run events, 10km and half marathons amongst them, I’d been taking part in triathlon since then and I’d gained a level of fitness that allowed me to think outside the box in what I might like to take part in. My retirement present for 2012 was a cycle journey of 3 months and 3000 miles from Sicily to Machynlleth via the west coast of Italy, into France and its west coast to St Malo and a Ferry to Portsmouth and continue the cycle home. The inspiration for this journey was witnessing the spring migration of birds in Morocco several years ago. That witnessing this migration from Sicily didn’t go well was a minor detail. Clearly I could sit on a bike and pedal for several hours and what was new to me dig deep when plans went awry! Since then I’ve completed several other cycle tours, less ambitious ones but still focused on pedal power in France, Switzerland, Germany, Holland, with my son, and more recently Spain, Portugal and England!

Living close to the coast I’ve been able to swim in the estuary with the club and have managed quite well at 1km and 2km. Such that having listened to others talking about an Ironman distance it dawned on me that I was being encouraged to think about it! Me think about the impossible. Nah, it’d have to be flat! Hmm talk of one at Maastricht in Holland when one member signed up three more of us did too. July 2015 gave me one year to prepare for an Ironman I wonder if I can do it at 65, I’ve never done a marathon. The medal and finishers T shirt have pride of place and the new found status doesn’t allow any excuses for trying others things.

Since then 10 mile swim between the Scilly Isles, a sort of island hopping. 13km swim up river from Aberdyfi. Several marathons, including Snowdon trail and road versions. A 50 mile Ultra Marathon including 3500m of climb around Dolgellau including the peaks of Cadair Idris and Difwys. All impossible for the ageing athlete that I have become and long may it last!

John Williams 

Clwb Triathlon Cerist

_____________________________________________________________________________________

Dwi bellach yn 62 ac wedi ymddeol, a fy nghyflwyniad i fyd triathlon wedi digwydd dros nifer o flynyddoedd, gan fynd o wylio i gymryd rhan. Ar wahân i’r iechyd a’r ffitrwydd sydd gan rywun yn ifanc, rydw i bellach yn gryfach ac yn fwy ffit na dwi’n cofio. Dwi wastad wedi byw’n iawn, o ran bwyta a bod allan yn yr awyr agored. Dwi erioed wedi ysmygu, yfed yn gymedrol a dechrau teulu yn fy 30au. Doedd fy swydd fel peiriannydd ddim, yn gofyn am lawer o symud, ac yn golygu eistedd (gwaith cyfrifiadur) a theithio llawer. Erbyn fy 40au hwyr, roeddwn yn cael trafferth gyda fy ysgwyddau a fy nghefn. Roedd cysgu’n anghyfforddus – amser am wely newydd roeddwn yn meddwl, roedd codi pensel oddi ar y llawr yn gofyn am weithio allan sut i blygu i’w chodi. Roedd cerdded i fyny bryn yn golygu ambell egwyl i ‘edmygu’r olygfa’; doedd hyn ddim yn arfer digwydd. Arweiniodd hyn at y ddwy ysgwydd yn ‘rhewi’, a therapi o ryw fath neu’i gilydd yn gwneud dim i’w wella.  Roeddwn hefyd wedi rhoi gwaed ers fy ugeiniau cynnar, a’r flwyddyn honno, fe ges fy ngwrthod oherwydd diffyg haearn, a chael cyngor i weld doctor.  

Roedd yn amlwg fod angen newid yn fy ffordd o fyw, felly penderfynais fynd ati i fod yn fwy ffit, a dechrau loncian, i fyny rhiw o fy nghartref, felly’n cerdded y rhan gyntaf. Ond roedd yn rhyfedd gorfod aros i gael fy ngwynt ar y ffordd lawr y rhiw!  Doedd hynny’n amlwg ddim yn dda, ond cadwais i fynd, a gwneid milltir go dda.  

Bythefnos wedyn roedd fy ysgwyddau’n gwella – roeddwn yn amau os oeddent wedi dod i arfer a gwneud dim, a phenderfynu rhewi. Beth bynnag, ar ôl nofio gyda’r plant yn y pwll lleol, roeddwn yn falch o allu nofio 10 hŷn. Fe wnaeth sylw gan un o’r hyfforddwyr triathlon ychydig wedyn fy annog i ddechrau nofio gyda nhw, a gynted roeddwn i yno, daeth yr anogaeth i ddechrau rhedeg a beicio ac ati. Dair blynedd ar ddeg yn ddiweddarach, er nad oes gen i ddiddordeb mawr yn hynny, dwi’n dal heb gyrraedd y brig i mi!  Fy mhrif ddiddordeb yw cael pobl yn iach, eu cael allan yn gwneud ymarfer erobig o unrhyw fath. Y syniad o’i ddefnyddio cyn i chi ei golli.  

Ers 2003 roeddwn wedi rhoi tro ar ambell ras redeg, 10km a hanner marathon yn eu plith. Roeddwn wedi cymryd rhan mewn ambell driathlon ers hynny ac wedi cyrraedd lefel ffitrwydd oedd wedi galluogi i mi feddwl ychydig yn wahanol am beth i’w wneud. Fy anrheg ymddeol yn 2012 oedd taith feic dros 3 mis a 3000 milltir o Sicily i Fachynlleth ar hyd arfordir gorllewinol yr Eidal, i mewn i Ffrainc a’i harfordir gorllewinol i St Malo, llong i Portsmouth a pharhau i feicio adref. Yr ysbrydoliaeth ar gyfer yr her oedd gweld yr adar yn mudo yn y gwanwyn ym Moroco flynyddoedd yn ôl. Manylyn bach ydi nad aeth gweld y mudo o Sicily yn dda iawn. Yn amlwg, gallwn eistedd ar y beic a phedalu am oriau lawer, ond beth oedd yn newydd i mi oedd dal ati pan oedd y cynlluniau’n mynd ar chwâl!  Ers hynny, rydw i wedi bod ar nifer o deithiau beic eraill, rhai’n llai uchelgeisiol ond yn dal yn gofyn am waith pedalu yn Ffrainc, Y Swistir, Yr Almaen, Yr Iseldiroedd, gyda fy mab, ac yn fwy diweddar yn Sbaen, Portiwgal a Lloegr!  

Mae byw yn agos at yr arfordir yn golygu gallu nofio yn yr aber gyda’r clwb, a llwyddo’n reit dda ar 1km a 2km. Wrth wrando hefyd ar eraill yn siarad am Ironman, daeth yn amlwg eu bod yn fy annog i i feddwl am y peth hefyd! Fi? Amhosibl. Na, byddai’n rhaid iddo fod yn fflat! Hmm, un ym Maastricht yn yr Iseldiroedd? Fe gofrestrodd un, ac yna fe wnaeth tri arall ohonom hefyd. Roedd Gorffennaf 2015 yn rhoi blwyddyn y mi baratoi ar gyfer Ironman. Tybed allwn i wneud yn 65 oed, doeddwn i erioed wedi gwneud. Mae’r fedal a’r crys t gorffenwr yn cael lle amlwg yn y tŷ, ac mae’r statws newydd yn golygu nad oes esgus i osgoi trio rhywbeth newydd.  

Ers hynny bu nofio 10 milltir rhwng Ynysoedd Scilly, yn mynd o un ynys i’r llall. Nofio 13km i fyny’r afon o Aberdyfi. Sawl marathon, yn cynnwys un llwybr ac un ffordd yr Wyddfa. Marathon Ultra 50 milltir yn cynnwys 3500m o ddringo o amgylch Dolgellau yn cynnwys copaon Cadair Idris a Diffwys. Y cwbl yn amhosibl i athletwr sy’n heneiddio fel fi, a hir y pery hynny!

John Williams 

Clwb Triathlon Cerist

Thanks to our Partners

Join Us

And enjoy insurance benefits, race licensing and more...