News

Bala Cycling Club

Published:

Bala cycling club have recently affiliated with Welsh Triathlon, now making them Bala Cycling and Triathlon Club!

This is in support of the ever-increasing number of members who compete in multisport events as well as cycling, with the main focus being on the disciplines at the Bala Big Bash Weekend. This year, the club has members competing as individuals across the various disciplines, as well as a team within the team relays.

The cycle club have had success at the Bala event in previous years, especially within the relay element, but the main focus as a club is to enjoy local and social events. The Bala Big Bash is being held on the 29th and 30th June this year, and there will be an abundance of Bala shirts across the children’s race and the team relay event on Saturday, as well as both sprint and standard distance triathlons on the Sunday.

There are opportunities for old and new members, individuals of all abilities and experience, and if you don't want to take part, come down and support. In time, the club hopes to be able to provide structured coaching across both disciplines, but in the meantime, there’s a welcome for anyone who wishes to join the club to train, or just socialise.

The club usually hosts a club ride every week aimed at different abilities, as well as cycle sessions for children on Saturday mornings. For further information on the club’s activities, please contact through the Facebook page or by contacting the club secretary, Aled Williams. (aledwilliams999@btinternet.com). Further information can also be found at https://www.bc-clubs.co.uk/bala/

Clwb Beicio (a Triathlon) y Bala 

Mae Clwb Beicio’r Bala wedi cyd-ymaelodi gyda Triathon Cymru fel ei fod bellach yn glwb beicio a Triathlon.   Mae hyn i gefnogi nifer gynyddol o’r clwb sydd yn beicio a Triathlon-io, gyda pwyslais ar Triathlon y Bala.  Eleni, mae tros ddwsin o aelodau wedi datgan eu bwriad i gystadlu unai fel rhan o dim neu fel unigolion.  Mae’r clwb beicio wedi cael peth llwyddiant yn y gorffennol, yn enwedig gyda tim cyfnewid ar y pellter llawn, ond mwynhau cymryd rhan mewn digwyddiad lleol sy’n ysgogi’r rhan fwyaf.  Mae Bash Mawr y Bala yn cael ei gynnal eleni ar 29 a 30 Mehefin, a bydd disgwyl gweld crysau’r clwb yn ras y plant ar brynhawn Sadwrn, y ras gyfnewid yn hwyrach yn y dydd, ac hefyd yn y rasys bur, hir a cyfnewid ar fore Sul.  Mae yna gyfle i’r hen a’r newydd, o bob gallu, ond os nad ydych am ymuno a ni, dewch i gefnogi!  Gyda amser, mae’r clwb yn gobeithio darparu hyfforddiant i rai sydd am rhoi blas ar y ddau gamp, ond yn y cyfamser, mae na groeso mawr i unrhyw un sydd eisiau ymuno a ‘r clwb i gyd-hyfforddi, neu fwynhau cymdeithasu.  Fel arfer, cynhelir tair taith feicio fel clwb pob wythnos, wedi eu anelu ar gyfer gallu a ffitrwydd gwahanol, a cynhelir hyfforddiant sgiliau beicio i blant oed cynradd yn achlysurol ar foreau Sadwrn.  Pris aelodaeth ydy £10 i oedolion a £5 i blant.  Am fwy o wybodaeth am weithgareddau’r clwb, gellir cysylltu trwy dudalen Facebook neu drwy’r ysgrifennydd Aled Williams (aledwilliams999@btinternet.com). Am fwy o wybodaeth, cliciwch https://www.bc-clubs.co.uk/bala/

Thanks to our Partners

Join Us

Enjoy insurance benefits, race licensing and more...